
“Mae pob un o’r artistiaid yn dra dawnus yn ei faes; gyda’i gilydd, maen nhw’n wefreiddiol. Maen nhw mewn cytgord amlwg â’i gilydd ac mae’r perfformiad yn llifo. Safon fyd-eang.”
Clare Potter
Yn 2014, daeth pedwar actor a cherddor o Gymru sef Glenda Clwyd, Phylip Harries, Lowri-Ann Richards a Sean Williams, ynghyd i rannu eu diddordeb angerddol yng ngeiriau a cherddoriaeth Cymru. Ac felly y ganed grŵp perfformio newydd, cenedlaethol – Aur Cymru, Welsh Gold.
Bellach mae Llinos Daniel wedi ymuno â nhw, ac mae cynhyrchiad cyfredol Aur Cymru, Welsh Gold, Cynnyrch o Gymru yn ddathliad parchus, hiraethus, cwrs a brathog o Gymru a Chymreictod trwy gyfrwng barddoniaeth a cherddoriaeth o’r chweched ganrif hyd heddiw.

Llinos Daniel
Cafodd Llinos Daniel ei hyfforddiant yn Royal Holloway ac Academi Celfyddyd Ddramatig Webber Douglas. Fel actor, mae wedi gweithio’n helaeth ym maes y theatr, teledu a ffilm ar draws y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae ei rolau theatr yn cynnwys Lady Macbeth yn Macbeth – Kill Bill Shakespeare, Myfanwy Montez yn Aberystwyth Mon Amour ac Angela yn Eye of the Storm gyda cherddoriaeth gan Amy Wadge. Mae ei gwaith teledu yn cynnwys Hinterland a Torchwood.
Mae Llinos wedi bod ar daith fel unawdydd a thelynor gyda Chôr Meibion y Mynydd Du yn America. Mae ei halbwm Themes and Dreams of Wales ar gael gan Black Mountain Records.

Lowri-Ann Richards
Cafodd Lowri-Ann Richards ei hyfforddiant yn Webber Douglas ac Ysgol Llefaru a Drama Central. Yn gynnar yn ei gyrfa llwyddodd i gyrraedd y deg uchaf yn y siartiau ddwywaith gyda’r band Tight Fit. Mae ei chredydau actio yn y theatr, ar y teledu a’r radio ac mewn ffilm yn niferus, ac yn cynnwys y Theatr Frenhinol Genedlaethol ac ymddangosiadau oddi ar Broadway.
Mae Lowri-Ann yn Gymraes iaith gyntaf o ogledd Cymru, ac fe’i gwelir yn aml yn perfformio yn ei sioe cabaret ddoniol, unigryw Two Blondes and a Harp ochr yn ochr â’r telynor Dylan Cernyw. Mae ei gwaith i’r dyfodol yn cynnwys ffilm Hollywood a rhan y Frenhines Greulon yn Sleeping Beauty yn y Riverfront, Casnewydd, yn ystod tymor pantomeim 2018/19.

Phylip Harries
Actor/cerddor o Gwm Tawe yw Phylip Harries.
Mae ei waith theatr yn cynnwys: Macbeth, One man 2 Guv’nors, Tom – the Musical a Little Shop of Horrors. Teledu: Hinterland, The Kennedys, Amdani a Torchwood.
Ffilm: Excalibur Rising, The Last Seduction 2 ac A Bit of Tom Jones. Radio 4: Aberystwyth Mon Amour, The Owl Service
a Telling the Sea.
Yn ddiweddar Phylip oedd Cynhyrchydd Creadigol Shane a’r Belen Aur – pantomeim teledu yr oedd Shane Williams
yn seren ynddo, a bu hefyd yn ysgrifennu ac yn ymddangos yn Y Doniolis, cyfres newydd i blant ar S4C (5.05pm ar ddydd Iau!).

Sean Williams
Mae Sean Williams yn actor, darllenydd, awdur a cherddor o Gymru. Ef yw sylfaenydd Aur Cymru, Welsh Gold.
Cynhyrchiad cyfredol
Mae cynhyrchiad cyfredol Aur Cymru, Welsh Gold, Cynnyrch o Gymru yn ddathliad parchus, hiraethus, cwrs a brathog o Gymru a Chymreictod trwy gyfrwng barddoniaeth a cherddoriaeth o’r chweched ganrif hyd heddiw. Mae’n cael ei berfformio yn Gymraeg a Saesneg, ac yn cynnwys gwaith Taliesin, Aneirin, Dafydd ap Gwilym, Dannie Abse, Tiffany Atkinson, Gillian Clarke, W H Davies, Menna Elfyn, Matthew Francis, Nigel Jenkins, Aneirin Karadog, Gwyneth Lewis, Robert Minhinnick, Wilfred Owen, Malcolm Pryce, Owen Sheers, Dylan Thomas, Edward Thomas, RS Thomas, John Tripp, Vernon Watkins, Rowan Williams, Hedd Wyn a Samantha Wynne-Rhydderch.
Bydd yn eich cludo i wlad sy’n llawn angerdd a harddwch, galarnadau a gorfoledd, dicter a phoen, ddoe a heddiw. Cymru trwy eiriau a cherddoriaeth.
Taith Cynnyrch o Gymru 2018
Bu Cynnyrch o Gymru ar daith ddiwethaf yn hydref 2018.
28 Medi 2018: Neuadd Goffa Cricieth
3 Hydref 2018: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
5 Hydref 2018: The Courtyard, Hereford
6 Hydref 2018: Theatr Brycheiniog, Brecon
Ymholiadau perfformio
Mae’r perfformiadau wedi’u llunio ar gyfer theatrau canolig, a bydd y sioe yn para am awr a hanner heb egwyl. Mae’r gofynion technegol yn fach iawn.
Ar gyfer pob ymholiad ac i gadw lle, ffoniwch: 077110 83935 neu anfonwch e-bost i: info@welshgoldwordsandmusic.com